Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3, Y Senedd
Dyddiad: Dydd Iau, 25 Mai 2023
Amser:
09.48 -
12.02
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13327
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Delyth Jewell AS (Cadeirydd) Hefin David AS Vikki Howells AS (yn lle Alun Davies AS) Heledd Fychan AS Tom Giffard AS Carolyn Thomas AS |
Tystion: |
Gerwyn Evans, Cymru Greadigol Dawn Bowden AS, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth |
Staff y Pwyllgor: |
Lleu Williams (Clerc) Haidee James (Ail Glerc) Rhea James (Dirprwy Glerc) Sam Mason (Cynghorydd Cyfreithiol) Sara Moran (Ymchwilydd) Robin Wilkinson (Ymchwilydd) |
1 Yr heriau sy’n wynebu gweithlu’r diwydiant creadigol: trafod y materion o bwys
1.1 Trafododd y Pwyllgor y materion o bwys ar gyfer yr ymchwiliad, a chytunodd arnynt.
2 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
2.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol.
2.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Alun Davies AS. Roedd Vikki Howells AS yn dirprwyo ar ei ran.
3 Yr heriau sy’n wynebu gweithlu’r diwydiant creadigol: sesiwn dystiolaeth gyda Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth.
3.2 Cytunodd y Dirprwy Weinidog i rannu canlyniadau arolwg y diwydiant.
3.3 Cytunodd y Dirprwy Weinidog i rannu’r rhestr o brosiectau sydd wedi’u cefnogi.
4 Papurau i'w nodi
4.1 Cafodd y papurau eu nodi.
4.1 Rhaglen PEACE PLUS 2021-2027
4.2 Cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24
4.3 Cytundebau rhyngwladol
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn ac o'r cyfarfod nesaf (7 Mehefin 2023)
5.1 Derbyniwyd y cynnig.
6 Yr heriau sy’n wynebu gweithlu’r diwydiant creadigol yng Nghymru: trafod y dystiolaeth
6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
7 Diogelu’r casgliadau cenedlaethol: trafod gohebiaeth ddrafft
7.1 Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ddrafft a chytunodd arni.
8 Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Diogelu Data a Gwybodaeth Ddigidol (Rhif 2)
8.1 Cafodd y Pwyllgor sesiwn friffio ar y Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Diogelu Data a Gwybodaeth Ddigidol (Rhif 2).
9 Cysylltiadau rhwng Cymru ac Iwerddon: trafod gohebiaeth ddrafft
9.1 Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ddrafft a chytunodd arni.
10 Honiadau'n ymwneud ag Undeb Rygbi Cymru: trafodaeth ar y strategaeth ymgysylltu
10.1 Trafododd y Pwyllgor y strategaeth ymgysylltu a chytunodd arni.
11 Cysylltiadau rhyngwladol Llywodraeth Cymru
11.1 Cysylltiadau rhyngwladol Llywodraeth Cymru: trafod y flaenraglen waith
11.1.1 Trafododd y Pwyllgor y flaenraglen waith a chytunodd arni.
11.2 Cysylltiadau rhyngwladol Llywodraeth Cymru: ymweliadau tramor ac ymwelwyr (Chwefror - Ebrill 2023)
11.1.2 Cafodd y Pwyllgor sesiwn friffio ar gysylltiadau rhyngwladol Llywodraeth Cymru: ymweliadau tramor ac ymwelwyr (Chwefror - Ebrill 2023).
11.3 Cysylltiadau rhyngwladol Llywodraeth Cymru: trafod gohebiaeth ddrafft
11.1.3 Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ddrafft a chytunodd arni.
12 Blaenraglen waith
12.1 Trafod y flaenraglen waith ar gyfer haf 2023
12.1.1 Trafododd y Pwyllgor y flaenraglen waith a chytunodd arni.
12.1.1 Cytunodd y Pwyllgor i wahodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i ymuno â chyfarfod y Pwyllgor ar 14 Mehefin 2023 ar gyfer sesiwn friffio gan Lywodraeth Cymru ar y Papur Gwyn ar Addysg Gymraeg.
12.1.2 Cytunodd y Pwyllgor i drefnu i ymweld â safleoedd angori'r Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol yn ystod toriad yr haf.
12.2 Oriel gelf gyfoes genedlaethol: trafod y papur cwmpasu
12.2.1 Trafododd y Pwyllgor gwmpas yr ymchwiliad, a chytunodd arno.